Cyfle i Ddatgan Diddordeb:
Preswyliad Print Canmlwyddiannol Sefydliad Celf Josef Herman Cymru, i’w dreulio yng Ngwasg Curwen
Cynigir preswyliad o wythnos i artist/ wneuthurwr printiau gan Sefydliad Josef Herman, mewn Partneriaeth gyda The Curwen Studio, Caergrawnt. Bydd hwn yn cynnwys:
Wythnos o hyfforddiant i’w dreulio yn y lleoliad clodfawr,The Curwen Studio, er mwyn cynhyrchu cyfres o lithograffau. Darperir y platiau a’r deunyddiau ar eich cyfer -
www.thecurwenstudio.co.uk.
Caiff y gwaith a gynhyrchwyd yn ystod y preswyliad ei gynnwys mewn arddangosfa deithiol a fydd hefyd yn cynnwys detholiad o brintiau gan Josef Herman. Agorir y daith arddangos yn Oriel Ceri Richards yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe, fel rhan o Ŵyl Abertawe 2012 (lleoliadau eraill i’w cadarnhau).
Ar ddiwedd y preswyliad, cewch dri mis o fentora a fydd yn parhau’r berthynas.
Bydd y gwaith yn rhoi’r pwyslais ar y pethau hynny a oedd o ddidordeb iJosef Herman, hynny yw, “y pethau y mae pobl yn eu gwneud a phaham y maent yn eu gwneud”.
Pwy?: Mae’r preswyliad yn agored i artistiaid a gwneuthurwyr printiau cain sydd newydd ddod i’r golwg ac a aned yng Nghymru neu sy’n byw a gweithio yma ac sydd wedi ennill gradd BA neu MA yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf.
Pryd?: Disgwylir i’r preswyliad gael ei gynnal yn y Gwanwyn (2012), gyda’r arddangosfa yn dechrau yn yr Hydref o’r flwyddyn honno.
Gofynion: Bydd disgwyl i’r artist detholedig anrhegu rhai o’i brintiau i gasgliad Sefydliad Celf Josef Herman Cymru.
Ffioedd: Gwerth y preswyliad yw £3395, gan gynnwys hyfforddiant a deunyddiau, yn ogystal â chyfraniad hyd at £800 tuag at lety a lwfans ymgynnal.
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: Ionawr 20fed 2012
Gwneud Cais: Anfonwch 6 delwedd JPEG (300dym [dpi]) crynodeb o’ch diddordeb, profiad ac ymarfer (150 o eiriau neu lai) yn ogystal â’ch C.V.
Ceisiadau e-bost: submission@josefhermanfoundation.org
Ceisiadau drwy’r Post: Preswyliad Print Canmlwyddiannol Sefydliad Celf Josef Herman Cymru, Neuadd Les y Glowyr, Heol Aberhonddu, Ystradgynlais SA9 1JJ
Darperir y preswyliad hwn drwy grant hael Cyngor Celfyddydau Cymru. Elusen a chyfundrefn a sefydlwyd i fagu diddordeb yn yr artist Josef Herman, ei fywyd a’i waith, yw Sefydliad Celf Josef Herman Cymru. Drwy wneud hynny, mae’r Sefydliad, yn ei enw, yn hyrwyddo’r celfyddydau a hybu pobl i fod yn rhan ohonynt.